Symposiwm y Celfyddydau, y Dyniaethau a Deallusrwydd Artiffisial Cyfrifol
Ydych chi’n ymchwilydd yn y Celfyddydau, y Dyniaethau neu’r Gwyddorau Cymdeithasol ym Mhrifysgol Aberystwyth â diddordeb ymchwil mewn Deallusrwydd Artiffisial (DA)?
Mi fydd y Symposiwm hwn o ddiddordeb i chi! !
Mae croeso i holl staff a myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth ymuno â ni yn
Symposiwm y Celfyddydau, y Dyniaethau a Deallusrwydd Artiffisial Cyfrifol
Bydd y digwyddiad hwn yn cael ei gynnal ar 29 Mai 2024.
Cadeirir gan Dr Thomas Dekeyser (Prifysgol Aberystwyth) a Dr Alan Chamberlain (Prifysgol Nottingham)
Bwriad y digwyddiad yw dod ag ysgolheigion y Celfyddydau a’r Dyniaethau ym Mhrifysgol Aberystwyth ynghyd i gydweithio a thrafod y cwestiwn amserol, “Sut gall y Celfyddydau a’r Dyniaethau alluogi a chefnogi ymchwil yn ymwneud â DA Cyfrifol ar lefel bersonol, o ran ymarfer ac yn athronyddol?”
Er mwyn gwneud hyn, byddwn yn treulio amser yn ystyried natur ‘cyfrifoldeb’ a sut olwg sydd ar DA Cyfrifol gan ganolbwyntio ar dri maes penodol: Ecoleg a Bywyd Gwyllt, Hunaniaeth a Lles, a Chynrychiolaeth, Cred a Threftadaeth.
Bydd y diwrnod yn cael ei rannu’n 3 sesiwn:
Cyflwyniadau (10yb - 11yb): yn gyntaf bydd y trefnwyr yn rhoi braslun o’r diwrnod a’i nodau, yna bydd cyfle gan bob un sy’n cyfrannu i gyflwyno eu diddordeb yng nghwestiwn canolog y digwyddiad, a hynny mewn ychydig funudau (hyd at 5).
Gweithdai (11yb - 1yp): tri gweithdy i’w cynnal ar yr un pryd:
‘DA Cyfrifol ac Ecoleg’ - Chloe Griffiths
‘DA Cyfrifol a Hunaniaeth’ - Thomas DeKeyser
‘DA Cyfrifol, Cynrychiolaeth, Cred a Threftadaeth’. - Alan Chamberlain
Prif anerchiad gan yr Athro Alan Dix (Prifysgol Metropolitan Caerdydd) (2-3yp)
Athro Alan Dix
Cofrestru
Gallwch gofrestru trwy anfon e-bost atom gan ddweud wrthym (3-4 llinell) am eich diddordeb mewn DA, a pha weithdy yr hoffech ymuno ag ef. Byddwn yn rhoi gwybod i chi am leoliad y digwyddiad.
Cliciwch yma i anfon e-bost atom.
Edrychwn ymlaen at eich gweld chi yno.
10.00 - Canolfan Ddelweddu 0.06
Noddir y digwyddiad gan Ganolfan Deallusrwydd Artiffisial Prifysgol Aberystwyth, nT.AI.L (Rhwydwaith Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau) a Rhwydwaith DA Cyfrifol, Ymchwil a Chynrychiolaeth (Rhwydwaith R3) (Prifysgol Nottingham) ac Yr Adran Seicoleg (Prifysgol Aberystwyth)
Let’s Work Together
Get in touch so we can start working together - Join the Network
Dr Alan Chamberlain
The R3 Network is supported by the following Engineering and Physical Sciences Research Council projects.
AI UK: Creating an International Ecosystem for Responsible AI Research and Innovation (RAI UK), (RAKE Responsible Innovation Advantage in Knowledge Exchange) [grant number EP/Y009800/1]
Horizon: Trusted Data-Driven Products [grant number EP/T022493/1]
UKRI Trustworthy Autonomous Systems Hub (The TAS RRI II project) [grant number EP/V00784X/1]